www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Owain Owain

Gallwch weld rhagor amdano ar ei safle www.owainowain.net

 

Joni Pen Dryw
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Deryn' ym mis Medi 1964)

Joni Pen-dryw -
    Fe aeth i Gaer
    I weld ei chwaer.
    Wedi cyrraedd y dre
    Anghofiodd ymhle
    Roedd ei chwaer yn byw.
        O! Joni Pen-dryw!

Joni Pen-dryw -
    Fe aeth yn ôl
    Dros fryn a dôl.
    Ond pan ddaeth yr hwyr
    Anghofiodd yn llwyr
    Ble roedd EF yn byw!
   
         O! Joni Pen-dryw!

 

Sioni a Moli
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Deryn' yn Chwefror 1966)

Sioni Macaroni yn byw ar y gwynt -
Moli Roli-ploi yn bwyta gwerth punt.

Sioni Macaroni cyn feined â hoelen -
Ond Moli Roli-poli mor grwn â chasgen.

Sioni Macaroni yn byw yn gant ac ugain -
Ond Moli Roli-poli yn marw'n ddim ond ugain!

 

Teulu'r Gegin yn Cael Te
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Deryn', Hydref, 1964.)

"Tic-toc,"
Ebe'r cloc,
"Mae'n amser cael te!"
"Blib-blob,"
Ebe'r tecell,
"Gwnaf botied o de."
"Tinc-tonc,"
Ebe'r sosban,
"Gwnaf i ferwi meipan."

"Ond ha!"
Ebe
'r tân
Gan fflamio a mygu,
"Myfi fydd yn c'nesu a berwi y dwr!"
"O! taw
â dy stwr!"
Ebe'r
tân wrth y cloc:
"Taw di yr hen fr
ân!"
"Cei broc!"
Ebe'r sosban
O gyfeiriad y pentan.

"Gan bwy?"
Ebe'r llwy,
Yn rhoi winc ar y
tân.
"
Nawr! Nawr!"
Ebe'r tecell;
"Ust! Ust!"
Ebe'r badell.
"Dyna ddigon!"
Ebe'r radell,
"Onid e,
Chawn ni ddim te!"

Wedi'r elwch
Bu tawelwch,
A berwyd y dwr
Gan y t
ân yn ddi-stwr;
Eisteddodd y cwmni
Pob un yn ei le,
Bwytawyd y feipen
Ac yfwyd y te.

 

 

Côr Glan y Môr
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Deryn' yn Rhagfyr 1964)

Ar lan y môr yn canu'n iach
Mi glywais gôr o bysgod bach:

Saith lleden fwd yn canu bas
A cheg pob un fel talcen tas.

Wyth o lysywod yn canu tenor,
A'u gyddfau meinion yn wyn fel marmor.

Naw macrell resog yn canu alto;
Pob un yn bloeddio - dim un yn danto.

Soprano pêr gan ddeg gath fôr
A'r crancod fflat yn dweud 'Encôr!'

 

Wmffra! Wmffra!
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Deryn' yn Tachwedd 1964)

Mistar! Mistar! Ble mae'r tractor?
Yn tynnu dannedd gwraig y doctor!

Aiê?

Bid siwr!

Mistar! Mistar! Ble mae'r arad?
Yn golchi llestri Siân Angharad!

Aiê?

Bid siwr!

Mistar! Mistar! Ble mae'r belar?
Yn trwsio sanau Dewyrth Pitar!

Aiê?

Bid siwr!

Mistar! Mistar! Ble mae'r trelar?
Yn dal y rhwyd i Deio'r Potsiar!

Aiê?

Bid siwr!

Mistar! Mistar! Paid â chyboli!
Wmffra! Wmffra! Paid dithau â holi!

 

 

I DDINOGAD

(Addaswyd gan Owain Owain o hwiangerdd ddi-enw o'r seithfed ganrif.)

 (Cyhoeddwyd yn Deryn, Ebrill, 1966.)

 

Pais Dinogad, pais fraith
Yn esmwyth, gynnes, glyd :
Daw dy dad yn ôl cyn nos
Cysga di'n dy grud.

Tad Dinogad yn ei gwch
Yn dala pysg Derwennydd;
Tad Dinogad, Giff a Gaff,
Yn hela gwyllt y mynydd.

"Dal nhw, Giff!" a "Dal nhw, Gaff!"
A dal nhw i fy nghariad;
"Dwg nhw, Giff!" a "Dwg nhw, Gaff!"
Ac adre' i Ddinogad!

Tad Dinogad, Giff a Gaff,
Sy'n dod o'r hela 'nôl
Adar, pysgod, carw coch:
Cwsg, fy maban ffol!

 

 

 

NEUADD CYNDDYLAN
(Cyhoeddwyd yn Cymru'r Plant, lonawr, 1966.)

 

(Addaswyd o ddwy gân ddi-enw o'r nawfed ganrif) Dros fil o flynyddoedd yn ôl 'roedd Cynddylan yn Dywysog Powys. Fe laddwyd Cynddylan mewn brwydr ffyrnig, a drylliwyd ei Neuadd. Gadawyd ei gorff, a chyrff ei filwyr
marw, yn Neuadd Cynddylan, ym Mhengwern (ger Amwythig).

Gerllaw'r Neuadd ddrylliedig 'roedd eryr anferth yn byw - Eryr Pengwern.

 

 

 

Neuadd Cynddylan
Yn dywyll heno
Heb do, heb wely,
Heb ddrysau iddo;
Heb dân, heb gannwyll,
Heb fywyd ynddo.

Eryr Pengwern
A'i big yn llwyd;
Eryr Pengwern
Yn awchu am fwyd. . . .

Neuadd Gynddylan
Yn ddistaw heno
Heb gerddor, heb seiniau
I atsain drwyddo.
Distaw, tywyll,
Llwyd a digyffro.

Eryr Pengwern
A'i sgrechian croch,
Eryr Pengwern
A'i big yn goch.

 

 

Wil Cae Du
(Addasiad: robin llwyd)


Wil Cae Du'n codi ty.
Ar ddydd Llun gwnaeth ei lun.

Dydd Mawrth yn reit handi
Fe dorrodd y sylfaeni.

Dydd Mercher â briciau
Fe gododd y waliau.

Dydd Iau yn ei dro
Fe gododd y to.

Dydd Gwener yn siwr
Fe blymiwyd y dwr.

Dydd Sadwrn, rôl te
Gorffenodd y lle.

Ond pan ddaeth y Sul,
Fe deimlodd yn ful:

Roedd y ty yn un tlws -
Ond doedd ganddo run drws!


GWYL Y GENI

Mae Robin yn Frenin
(Ac Ann a Mair),
A Geraint yn Joseff
(A Siwsan yn Fair).

Ðyn bach o blastig)
Esgidiau di-lwch,
Tair coron o bapur
A choco yn drwch.

Pump oed ydi Geraint
A Robin yn dair
'Run oed (bron i'r diwrnod)
A'r ddol yn y gwair.

Mae engyl yn canu
(Pwy ðyr nad rhai gwir?)
A llwyfan y Festri
Yn Fethlehem dir.

Un seren drydanol
(Gwres mawr dan y lamp) :
Y coco yn rhedeg
A gwenu yn gamp

Mae Robin yn baglu
("Hei, watsia!" ei frawd),
Y goron yn disgyn,
Yn rhedeg ei rhawd

Dros ochor y llwyfan,
Tu arall i'r llen-
Lle nad oes ond t'wyllwch,
Heb sêr yn y nen.

Mae'r Brenin heb goron
A'r engyl yn fud,
A chysgu a chysgu
Wna'r ddol yn y crud.

"Ardderchog!" - y Llywydd -
"Cewch barti yn awr!"
A byrddau y festri
Bron sigo i'r llawr.

Mae Geraint yn llowcio
A Robin 'r un modd,
A'r engyl yn stwffio -
Mae pawb wrth ei fodd!

Adre'n gysglyd drwy yr oerwynt
("Ga i gysgu yn y gwair?")
Golchi'r coco, cau amrannau
A breuddwydio breuddwyd Mair.

(Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Cymro, 23 Rhagfyr, 1965)

 

GORCHEST
(Gyhoeddwyd yn Y Faner, Tachwedd 5, 1964)

Dim, ond heddiw tan yfory,
Dim ond fory tan y sêr;
Dim, ond orig tan Orion.
Drennydd, dradwy - cyntedd Nêr.

Trywydd roced fydd y draffordd
A dreiddia drwy y Llaethog Li,
Drwy y breunwy, drwy'r pelydrau,
Drwy y niwl i'r nebiwli
Draw i'r Tarw a Phersews,
Monocleros, Gemini.

Diawco!
Tydi dyn yn glyfar?
Heibio i sêr ag enwa ffraeth!
Tripia gwell na'r Rhyl na Mumbles,
Gwell na phicnig ar y traeth.

Ond ar ôl yr hynt a'r helynt,
Ar ôl cyrraedd maes o law:
Punt o fet fod clêr galactig
Ar y traethau euraid draw!

 

 

CÂN NWNCWL NOA
(Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Cymro, 6 Awst, 1965.)

"Eli Ffant, Eli Ffant,
a'th wyneb-hen-sant -
paham fod dy fodiau
yn sownd yn dy sodlau?"

"Fy ngwadnau," medd Eli,
"aeth bant!"

 

"Cama Mel, Cama Mel,
a'th grwman bach del -
o ble daw dy afiaith
yng nghanol y diffaith?"

"Mae 'nghrwman," medd Cama'n
" Hotel."

 

"Croco Deil, Croco Deil,
a'th ddannedd gwerth-chweil -
'r wyt ti'n hynod o handi
yn cnoi siwgwr-candi!"

"Fe'u hogaf," medd Croco,
"â ffeil!"

 

"Hipo Tam, Hipo Tam,
â'th gluniau fel ham -
pwy ddysgodd di nofio
mor heini â morlo?"

"Hormonau," medd Hipo,
"fy mam!"

 

"Cangar W, Cangar W,
a'th draed how-di-dw -
beth gebyst yw'r bogel
s'yn llogell dy fogel?"

"Arwyddais," medd Cangar,
"y llw!"

 

"Noser Os, Noser Os,
a'th gyrn di mor glos -
'rwyt ti'n lloerig a gwallgo',
yn dri-chwarter herco!"

"Cyrn-ddeiriog!" medd Noser,
"Heb os!"

 

Yr Hwyl-long Fawr

Fe welais long un dydd o haf,
Ar las y don yn hwylio'n braf;
Ei hwyliau llawn oedd o bob lliw,
Ac ar y bwrdd y safai'r criw.

Wel dyna griw!

Pry copyn du, yn gapden del
A smygai bib tan ambarel;
Ac wrth y llyw fe chwyrnai'r mêt -
Hen chwilen werdd ynghwsg ar sêt.

Ar ben y mast, iâr-fach-yr-haf -
Yn gweiddi'n groch ei bod yn glaf.
Yn tynnu rhaff roedd malwen goch
A lindys main yn canu cloch.

A chan pob un roedd cot laes wen,
A chap a phig, a chlocsiau pren.

Fe ddaeth y llong o'r Felinheli
 llwyth o goed i dre Pwllheli;
Ac o'r fan hon, fe glywais sôn,
 llwyth o faip i Bentraeth, Môn.

Ble mae hi nawr,
Yr hwyl-long fawr,
Â'i chriw mor od?
Nid ar y dðr -
Mae hynny'n siwr -
Nac ar y lan.

Ond pan fo'r lloer
A'i olau'n oer
Yn lliwio'r nen,
Fe'i gwelwch hi
Yn hwylio'r lli
Sydd uwch ein pen -
Ar gwmwl du
A'r gwyntoedd cry'
Yn llenwi'r hwyl.

Os gwelwch hi -
A gwrando'n graff -
Efallai y clywch chi
Wichian rhaff -
A sðn y gloch
A gweiddi croch
Iâr-fach-yr-haf.

 

Y Cyfnod Triasig
(Argraffwyd gyntaf yn Ionawr 1974 mewn cyfrol o'r enw Creaduriaid, CPPC)

 

Mwg du uwch copa'r mynydd -
ac wy yn y rhedyn hir;
yr heli'n dwym ar y traethau newydd,
a'r môr yn fywyd i gyd.

Daw gwreichion o gopa'r mynydd -
a chrac ym mhlisgyn yr wy;
yna - yng nghrud y rhedyn -
genir deinosor i'n byd.

Mae'n tyfu -
Yn troedio'r traethau,
ac yn magu cewri -
yn frenhinoedd byd.

Yna'r darfod -
ef a'i ymerodraidd hil -
gan adael dim ond ôl ei draed
ar ei draethau newydd
hen.

Y Cyfnod Sialcaidd
(Argraffwyd gyntaf yn Ionawr 1974 mewn cyfrol o'r enw Creaduriaid, CPPC)

Triceratops a Trachodon,
blodau lliwgar a choed cyll,
derw, iorwg, Trenodon -
a'r Tyrnosawrws hyll.

Celyn, ffawydd a magnolia,
Brachiosawrws (talaf un),
Helioceras, Twritela,
helyg, ffigys - ond dim dyn!

 

Wrfilod Wranws
(Argraffwyd gyntaf yn Ionawr 1974 mewn cyfrol o'r enw Creaduriaid, CPPC)

Mae'r blaned Wrfilod
yn wrlwm o wrfilod
o bob ffliw a fflun -
rhai yn wnllyd, och,
ac eraill yn hyll o nefibliw.

Un felly yw'r wrfil Achan -
ei groen yn achod i gyd,
a'i draed yn ddianghenraid.
Mae'n byw mewn hen achau,
ac yn bwyta dim ond cryps.
Ar ôl te, mae'n mynd i gacan:
wedyn, yn dost,
mae'n llyncu mil o badledi Braso
ac yn gweld y gwynt.

Ond bwrgoneddig o wrfil yw'r Dadach:
mae'n sychu'i geg
wyth gant, saith-deg naw a hanner
o weithiau bob dwthwn, weithian,
ac yn wrthog o dwng ar gyfartaledd.
'Welodd neb erioed
y Dadach yn maglamu -
dim ond gesgumodi
a hownowian fel bow
drwy'r dydd.

Dipyn o fwngrel
yw'r Achanadach -
mae'n sychu'i geg
bedwar cant a thri-deg a naw a thri-chwarter
o weithiau bob-yn-ail dwthwn,
ac yn bwyta cryps bob diwrnod arall,
fwy neu fwy.
Weithiau,
mae'n cnoi badledi Braso
ac yn maglamu fel bow;
ond yn grondifyrbwll,
dyd o byth yn howowian cyn te!

 

Prynu Top
(Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin, 1965.)

Robat, Robert,
Robin, Bob,
Yn mynd i'r ffair
I brynu top;
Ac ar un stondin rhwng ambell chwaden
Roedd deg o dopiau:
Rhai sgleiniog, oren .

Robat, Robert,
Robin, Bob,
A dalodd bunten
Am bob top:

    Top gan Robat,
    Un gan Bob,
    Gan Robert roedd un:
    Gan Robin roedd top.

Robat, Robert,
Robin, Bob,
Yn dod o'r ffair
Ar ol cael top.

A ger y stondin
Y topiau oren
Yn llaw y gwerthwr
Doedd ond UN bunten!

A dyn y stondin
Ni chafodd gam:
Roedd e' reit fodlon -
A wyddoch chi pam?

 

Y Pedwar Mochyn
(Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mai, 1965.)

I ble rwyt ti'n mynd,
Rhen fochyn bach coch?
"Rwy'n mynd i'r eglwys
I ganu'r gloch."
I ganu'r gloch?
Hen fochyn bach coch?
Wel dyna beth od-
Hen fochyn bach coch yn canu cloch!"

I ble rwyt ti'n mynd,
Rhen fochyn bach glas?
"Rwy'n mynd i gael te
Gyda sgweiar y Plas."
Gyda sgweiar y Plas?
Hen fochyn bach glas?
Wel, dyna beth od -
Hen fochyn bach glas gyda sgweiar y Plas!

I ble rwyt ti'n mynd,
Rhen fochyn bach du?
"Rwy'n m ynd i'r cwt ieir
I wneud gwely plu."
I wneud gwely plu?
Hen fochyn bach du?
Wel, dyna beth od -
Hen fochyn bach duyn gwneud gwely plu!

I ble rwyt ti'n mynd,
'Rhen fochyn bach gwyn?
"Rwy'n mynd i'r cae tatw
I blannu chwyn."
I blannu chwyn?
Hen fochyn bach gwyn?
Wel, dyna beth od -
Hen fochyn bach gwyn yn plannu chwyn!