www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny
Llun

 

 

Meredydd Evans (Merêd)

Plis Ga' i Ðy?
(Sgennwyd y gerdd hon yn y 40au)

Mae gen i iâr ddandi o'r enw Matilda
Mewn cwt bach yn ymyl y tþ
A phan fo'r bwrdd brecwast yn wag yn y bora
Gofynnaf yn neis iddi hi:

    O! Plis Ga' i Ðy? O! Plis Ga' i Ðy?
    Gwranda di arna'
    A thria dy ora'
    Mi lwga' os na cha' i ðy.

Pan fyddaf yn teimlo yn wan yn fy nghoesa
A nghefan bron torri yn dri,
Mi af ar fy nglinia' o flaen fy Matilda
Ac ymbil yn daer arni hi:

    O! Plis Ga' i Ðy? O! Plis Ga' i Ðy?
    Gwranda di arna'
    A thria dy ora'
    Mi lwga os na cha' i ðy.

Mae gwraig y drws nesa yn chwilio y siopa
Am wya' o fora hyd nos
Caf inna ddigonedd i lenwi fy nghylla
'Mond gofyn i'm iâr fechan dlos:

    O! Plis Ga' i Ðy? O! Plis Ga' i Ðy?
    Gwranda di arna'
    A thria dy ora'
    Mi lwga' os na cha' i ðy.

 

Y Tandem
(Sgwennwyd y gerdd hon yn y 40au)

Mae 'na gwyno fod 'na brinder petrol ymhobman
A bod y bysus a'r trêns yn rhy llawn
Ond mae Mari a mi
Yn cael hwyl fawr a sbri
Ar y tandem, b'le bynnag yr awn:

    Ar y tandem, ar y tandem,
    Mae hi'n werth i chi weld y musus a mi
    Ar y tandem, ar y tandem;
    Fe gawn reidio i'r fan a fynnom yn ffri!

Os daw llythyr inni oddi wrth Modryb Sara
Yn ein gwahodd i aros i'w thþ
Awn i ffwrdd ar ein hynt
Cyn gyflymed â'r gwynt
Ar y tandem â'r awel o'n tu:

    Ar y tandem, ar y tandem,
    Mae hi'n werth i chi weld y musus a mi
    Ar y tandem, ar y tandem;
    Fe gawn reidio i'r fan a fynnom yn ffri!

Mae gan bobol y drws nesa foto-beic a seid-car
Ond mae'r rheiny yn segur ers tro,
Tra mae'n tandem bach ni
Eto'n uchel ei fri
Ac yn swyno pob un yn y fro:

    Ar y tandem, ar y tandem,
    Mae hi'n werth i chi weld y musus a mi
    Ar y tandem, ar y tandem;
    Fe gawn reidio i'r fan a fynnom yn ffri!

Caiff y gwþr a'r gwragedd mawrion Rols Royce a chauffers
A thrafaelio'n gyffyrddus a swel,
Ond mil gwell gennym ni
Yw cael reidio yn ffri
Wrth ein pwysau ar y tandem bach del:

    Ar y tandem, ar y tandem,
    Mae hi'n werth i chi weld y musus a mi
    Ar y tandem, ar y tandem;
    Fe gawn reidio i'r fan a fynnom yn ffri!