www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny
Holiadur

 

 

Menna Elfyn

CAN DROS Y BARDD BYCHAN
 
[Bu farw Jassim o effeithiau rhyfel y Gwlff 1af
  o liwcemia. Deuddeg oed ydoedd a'i awydd
oedd bod yn fardd...]
 
Maddau imi Jassim
am ddwyn dy eiriau
er mwyn ennill calonnau.
Ti oedd y bardd bychan
fu'n gweithio'n y stryd
-yn gwerthu sigarennau
nes i fwg arall,
feddiannu dy wythiennau
 
 
Wna i ddim dweud llawer
am y rhyfel, na'r amser
pan oedd iwraniwm
a thaflegrau trwm
yn codi'n llwch uwch Basra,
nes i storm yr anial ddifa
rhai fel ti.
           

A na, does fawr o bwynt

imi grybwyll y bydd ei wynt
yn cerdded y tir,
am amser hir, hir
pedair mileniwm , i ddweud y gwir.
 
Achos , doeddet ti ddim yn rhan o hanes
-y dynion mawr a'u dial, a'u 'sgarmes,
heblaw am y frwydr am anadl,
doeddet ti ddim yn rhan o'u dadl,
wrth it gasglu llond gwlad o ddiarhebion
mewn sgrifen fan, mewn llyfrau breision.
 
dyma un y carwn ddweud yr eiliad hon,
'gwyn eu byd, y rhai pur o galon'.
 
A beth oedd y rhai a luniaist ti?
'Beth sydd yn fwy  na thi,
Farwolaeth?'
 
Ac am na fydd ing yn deall yr hengerdd,
cystal in  droi popeth yn 'angerdd'.
 
 

Cama

[Cafodd anifail ei eni - o frid y camel a'r lama  yn ddiweddar. Fe'i alwyd yn cama ac roedd pawb yn gyffrous am mai un teulu oedd y camel a'r lama ers talwm]

 

Yn Atacama , ymhell yn yr anial
fe anwyd cama, rhyw hanner camel

a hanner lama, ac yntau'n llamu
dros dywod euraid, carreg fellt yn fflamu

rhyw dwymyn aflonydd , yn lluwch mor gynnes
ar garlam -a'i drwyn mor fwyn a'i fynwes
 

A'r anwes-un sy'n dalp o'r cread
Yn eni gwyrthiol -llawn o gariad.

 

Gêm Luniau

Beth yw'r haul?
mango enfawr
yn arllwys ei sudd.

Beth yw'r darn lleuad?
hamog sy'n crogi
uwchben y byd.

Beth yw'r llosgyfynydd?
hufen iâ mewn côn
yn diferu wrth doddi.

Beth yw'r gwynt?
cipiwr sy'n ysgwyd
wrth roi'r byd yn ei ddwrn.

Beth yw bardd?
un sy'n gweld lluniau
ym mhob sefyllfa.