Mari Tudor
Syniad
Mae gen i syniad!
Rwyf am ei rannu
Tyrd, eistedd fan hyn
Cyn iddo ddiflannu!
Gwell i mi frysio
Rhag iddo fynd,
Allan drwy'r ffenest -
'Ti'n gwrando fy ffrind?'
Go drapia! Wrth siarad
Fe aeth i rywle.
Efallai daw'n ôl
O syllu i'r gwagle.
Na, fe aeth ar ddifancoll!
Anghofiwn amdano!
Cawn gyfle i'w drafod
Rywbryd eto.
Hei! Mae gen i syniad!
Fe gawn un gan Gruffydd.
Mae'n eu cadw, medd Syr,
Yng nghell yr ymennydd!
Paid Edrych Nawr
Paid edrych nawr -
Ond dwi'n credu
Bod bwystfil yn llechu
Yng nghysgod y tþ
Paid troi'n nôl -
Achos - dwi'n gwybod
Bod bwystfil yn barod
I'th lyncu a'th ddarfod!
Paid - paid â chrio,
Mae o'n sicr o ruo,
Sgrechian a neidio
A'th fwyta i ginio.
Paid, paid gafael mor dynn -
Dwi ddim ond yn herian.
Aw, paid! Ble mae Dylan?
RHO FI LAWR, MAM, MAM - BWGAN!
Byd y Pry Lludw
Pryd yn y byd
Pry Lludw?
Pryd
Brofaist gyntaf lleithder a llwch
Tywyllwch dudew y dom?
Hegla hi
Bry Lludw
Hegla hi am y goleuni.
Na, na bry llwyd y lludw
Nid ar dy gefn a'th draed i fyny
Mae gweld y byd.
Adlewyrchiad
Edrychaf yn y drych
A gwelaf drwyn smwt
Yn union yn y canol:
Wel dyna drwyn bach twt!
Yn wir, mae yn wahanol
I drwyn John Ty'n Clwt.
Edrychaf yn y drych
A gwelaf geg fach gron
Yn gwenu'n wirion arna i
A'm hwyneb hapus, llon.
Ceg llai yw hon, mi gredaf,
Na cheg fawr gegog Non!
Edrychaf yn y drych
A gwelaf lygad glas
Yn syllu'n fwyn a thirion
Heb ynddynt olwg cas.
Nid ydynt yn rhai meinion
Fel llygaid slei Wil Plas!
Edrychaf yn y drych
A gwelaf glustiau mawr
Yn gwrando'n astud, rhag i mam
Fy ngalw i ddod i lawr;
O leiaf nid oes arnynt nam:
Mae gan Gwenno glustiau cam!
Gwneud Cacen
Rwyf am helpu mam i rowlio,
Rowlio'r toes cyn ei goginio.
Rwyf am helpu mam i estyn
Blawd a siwgwr, blawd a menyn.
Cymysgu'r cyfan yn y fowlen
Cyn i mam eu troi yn gacen.
Pethau Tlws
Mewn bocs o dan fy ngwely
Mae gen i bethau tlws:
Mwclis gwyrdd a melyn
O'r farchnad yn Llanrwst.
Darn o ruban euraidd
A gefais gan fy Nain,
A phluen lliwiau'r enfys
O gynffon gwych y paun.
'Sgwn i?
Ni wn i am neb
Sy'n berchen ar wn;
Ond gwn i pe'i cawn
Nad ffrind fyddai hwn!
Y Lloer yn Goleuo'r Nos
Drych o oleuni
Ym moelni'r nos.
Adlewyrchiad o'r ynni
Sy'n bwydo'r dydd.
Cymydog pell
A'i ddrws led y pen
Yn llawn cydymdeimlad.
Dro arall,
Drwy gil y drws mae'n sbecian
Ar fyd o gysgodion.
Wyneb,
Yn graig symudol,
Nad yw'n troi ei gefn
Dim ond amgylchynu.
Patrymau bywyd
Mewn gwisgoedd llachar
Yn adlewyrchu
Yng ngolau'r drych.
Bod yn Flin
O bobol bach, rwyf i yn flin:
Yn wir, mae 'ngwaed i'n berwi:
Rwy'n gweiddi yn groch
Nes mae 'ngwyneb yn goch!
O bobol bach, rwy'n flin!
O bobol bach, rwyf i yn flin:
Fy llygaid sydd yn fflachio!
Rwy bron iawn a chrio
Rwy'n edrych yn ddu
Ar bawb drwy'r tþ:
O bobol bach, rwy'n flin!
O bobol bach, rwyf i yn flin:
Mae'n gas gen i ymolchi!
Mi ddringaf i 'ngwely
Wedi hen bwdu;
Ond daw mam i ddweud stori
A bobol bach ... rwy'n well!
Cnafon Bach Prysur
Cnafon bach prysur,
Heintus, di-gysur.
Ymledant yn bla,
Drwy aeaf a ha'
Ar bennau bach glân.
Chwarae'n ddi-flino,
Crwydro a dringo
Glynant ar gydyn
Dodwant yn sydyn
Mewn pennau bach glân.
Ond, aw! Dacw drwbwl!
Wele'r crib ddwbwl
Yn chwalu a chw'lota
A'u herlid i'r eitha'
O'r pennau bach glân!
Dim mwy o ddrysu
Ac ysu a chwysu
Nawr mae'r pennau'n glir,
Ond ar fy ngwir:
Paid a chrafu dy ben!
Gwrando a Chlywed
Clywais Mr Puw yn dweud
Mai bachgen da 'di Llyr.
Clywais Wil yn dweud wrth Huw
Na phery hynny'n hir!
Clywais dwrw cicio pêl
Ac yna clywais... Bang!
Clywais Wil yn dweud wrth Syr
Fy mod i'n un o'r gang.
Clywais lais yn gweiddi'n groch,
"Tyrd yma! Tyrd y gwalch!"
Clywais ebwch o ryddhad,
Roedd Wil a Huw yn falch
Nad arnynt hwy y bloeddiodd Syr
I gael esboniad teg
Paham y bu i'r belen gron
Lanio yn nosbarth deg.
Clywais ffeithiau am fy hun
Na chlywais rioed o'r blaen;
Clywais ambell beth yn wir
Na wyddwn am fy Nain!
Clywais fel y byddai'n rhaid
Wynebu cost y ffenast
Ac fel bod disgwyl ar unwaith
Nôl brwsh i glirio'r llanast.
Yna clywais Jason Jons
Mewn llais bach eitha parchus
Yn sgwrsio gyda Syr - ond wir,
Nid oedd Wil yn hapus.
"Bai ar gam! Ai dyna'r gwir?"
Gofynodd Syr yn syn
A chlywais Wil yn baglu dweud
"Mae'n ddrwg gen i am hyn!"
Ni chlywais neb ers hynny
Yn fy ngalw'n fachgen da.
Ni chlywais chwaith sut wyddai Syr
Am achau Nain mor dda!
Ond clywais Huw yn dweud bod Wil
Yn gwella erbyn hyn
A'r 'swper glw' ar goes y brwsh
Yn rhydd o'i fysedd gwyn...
|