Machraeth
(R J H Griffiths; ef bia
hawlfraint y cerddi)
Machlud Y Machlud
Miri y dydd yn darfod
Ac awel ysgafn y nos
Yn araf, araf ddyfod
A gwlith i betalau'r rhos;
A'r haul yn rhyw fil o ddarnau mân
Yn cofleidio'r môr a'i gusanau tân.
Yr Arth Wen
Mae tarth ei hanadl
yn niwlio
ffenestri rhew yr awyr
lle cân y gwynt.
Toddai ei phawenau
Ddannedd rhewllyd y môr
Lle anadla'r morfilod.
Pefria ei llygaid gloyw
ar y morloi.
Dacw'r eirth bychan
yn cynhesu eu hunain
ym mlanced ei chôt.
Mewn ty ymhell i
ffwrdd,
mewn gwlad arall,
uwchben y lle tân
yn neuadd yr heliwr:
Saif pen
marw
ar y mur.
Hon,
yr Arth Wen yma,
oedd galon yr eira.
Blaidd
Fi sy'n oernadu
Nes fferru'r mêr
Yn nuwch y goedwig
O dan y sêr.
Fi bia'r ffroen
Sy'n anadlu braw,
Fi bia'r glust
Pan fo peryg gerllaw.
Fi bia'r manflew
Gais anghenfil o ddyn,
Mae gen ofn yr heliwr -
A fi fy hun!
Hydref
Mae dail yr hydref heddiw
Yn goch a brown a gwyrdd
Yn disgyn megis cawod
O'r enfys ar y ffyrdd.
Ty Ni
Mae 'na lofft,
Mae 'na gegin
A chegin gefn,
A mam a dad
I gadw trefn.
Bwyd
'Corn Flakes' i Mam a Meri
Ond wy i Dad a fi
A phaned dda o goffi -
On asgwrn gaiff y ci!
|