www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Llifon Jones

Llygoden Fach Onest

 

Un tro yn Ffair Pwllheli
Ar ddiwrnod teg o haf,
Beth welais i ar faes y dref
Ond llygoden yn canu'n braf.

Roedd hi'n canu penillion telyn
Mewn llais soprano clir
Ac wrth ei hymyl dawnsiai cath:
Un wen â chynffon hir.

Roedd tyrfa yno'n gwylio -
Yn gweiddi "Mwy!" a "Mwy!"
A phawb yn methu deall
O ble y daeth y ddwy.

Aeth Sais o'r dorf i holi,
Gðr pwysig, hynod sych,
A gofynodd i'r gantores fach,
'Ble gest ti lais mor wych?'

Petrusodd y llygoden,
Yna meddai wrth y Sais,
'O, fera i ddim canu, wir,
Y gath sy'n yn taflu'i llais!'