Lewis Glyn Cothi
(1447 - 1486)
Marwnad Sion y Glyn
(Cerdd a sgwennodd y bardd ar ôl i'w fab Sion
farw yn 5 oed.)
Un mab oedd ddigon i mi:
Dwynwen! Gwae'i dad o'i eni!
Afal pêr ac aderyn
A garai'r gwas a gro gwyn,
Bwa o flaen y ddraenen,
Cleddau digon brau o bren,
Ofni'r bib, ofni'r bwbach,
Ymbil â'i fam am bêl fach.
Ffarwel bellach i'r bêl
Ac yn iach ganu'n uchel,
A ffarwel fy nghâr arab,
Isio'n fy myw, Sion fy mab!!!
|