www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

John Emyr

Gwylanod Powld Caernarfon 

(sy'n mynnu cael eu pig i mewn i gyfweliadau'r BBC)

Gwylanod powld Caernarfon
Yn sgrechian hyd y lle,
Heb barch at bysg na chyngor
Na thyrau ucha'r dre.

Gwylanod powld Caernarfon
Yn griw adeiniog, chwim;
Nid yw cyfweliad pwysig
I'r rhain ond megis dim.

I'w huchel-ðyl yr heidiant
Gan gynadledda'n llu;
Na'r uwchgynhadledd uchaf,
Uwch  yw eu tremio hy'.

Gwylanod powld Caernarfon,
Chwarddaf yn sðn eich cri,
Ond rhown y byd am fymryn bach
O'ch rhyddid llachar chi!

 

Diwrnod Gwyntog

Y tþ yw'r lle gorau ar ddiwrnod fel hwn
A'r gwynt yn chwythu;
Aelwyd a thelyn, diddosrwydd a thân
Yn ein diddanu.

Y tþ yw'r lle gorau ar ddiwrnod fel hwn
A'r coed acw'n gwingo;
Cynefin y teulu, a llyfr mewn llaw
Neu raglen i'w gwylio.

Y tþ yw'r lle gorau ar ddiwrnod fel hwn
A'r pnawn yn ymddatod;
Yr aelwyd yn cynnal heno'r fflam
Tra bo'r dydd yn darfod.