John Morris Jones
(1864 - 1929)
Cwyn y Gwynt
(Cerdd a sgwennodd wedi i'w ferch fach farw)
Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno,
Dagrau ddaw ynghynt.
Wrth fy ffenestr yn gwynfannus
Yr ochneidia'r gwynt.
Codi'i lais yn awr, ac wylo,
Beichio wylo mae;
Ar y gwydr yr hyrddia'i ddagrau
Yn ei wylltaf wae.
Pam y deui, wynt, i wylo
At fy ffenestr i?
Dywed im, a gollaist tithau
Un a'th garai di?
|