(Daw'r darn hwn allan o'i awdl 'Y Lloer' a
enillodd iddo gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngahernarfon yn 1903.)
Y Machlud
Adeg y machlud ydyw,
Gwrida'r môr yn borffor byw;
A'r haul yn drist a distaw
Sylla dros y lli o draw;
Wrth roi ffarwel i'r heli
Gwaeda'n llesg i don y lli.