www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Iolo Wyn Williams

Y Gwyddonydd

Mae gwyddoniaeth yn hawdd
mae gwyddoniaeth yn hwyl
ar ddiwrnod gwaith
ac ar ddiwrnod gwyl.

Holi a stilio
chwalu a chwilio,
chwilio a chwalu
dyfeisio, dyfalu.

Gwylio a gweled
yn effro i amgyffred
mai hanfod darganfod
yw cyffro y canfod.

Ymchwilio,
chwi welwch,
i gôl y dirgelwch
i'r crac yn y cread
a'r gwae yn y gwead
yw dyfnaf dyhead
gwyddonydd.