| |
Ieuan Wyn
Y Llyfr Stori
(Cyfarchiad plentyn i'r awdures Brenda Wyn
Jones)
Caf ffilm drwy agor cloriau, a gallaf
Ymgolli am oriau
Yn gwylio'n syn cyn eu cau
Oherwydd byw yw'r geiriau.
Cymru a Lesotho
Er dau liw, ac er dwy wlad - wahanol,
Un blaned yw'n huniad;
Un Ddaear ac un cariad,
Un ty, un teulu, un Tad.
|