Hilma Lloyd Edwards
Noswyl Nadolig
Yr eira'n ddisglair, arian - a ias oer
Dan y sêr tu allan;
Hon yw'r awr i'r mawr a'r mân
Ysu am lond eu hosan!
Cwch Gwenyn
Yn y tðr mae clwstwr clyd - o weision
Sy'n brysur bob munud;
A welwyd criw mor ddiwyd?
Ôl eu gwaith yn fêl i gyd!
Camgymeriad
Dewin o ddyn oedd Deio - wel dyna
Paul Daniels Sir Benfro,
Aeth un tric o chwith un tro:
A nawr mae'n telynorio!
Penbwl
Hen benbwl dwl ydyw Dan - a elwir
Yn Wali Llangadfan,
Ar ei heic ar draws Iran
Fe'i lediwyd gan falwodan!
Dringo'r Ysgol
Aeth Rhian yn athrawes - a dro'n ôl
Astronôt fu Annes,
Anti Kit aeth yn nyt-ces
A Heidi'n Ben Abades!
Bedd Gelert
Oes coel ar hanes y ci - a'i orchest
I warchod y babi?
Ai hen drysor yw'r stori,
Neu ai twyll ei bwriad hi?
|