Hedd Wyn
(Ei enw iawn oedd Ellis Evans; bugail o
Drawsfynydd a fu farw'n ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 1887 - 1917.)
Atgof
Dim ond lleuad borffor
Ar fin y mynydd llwm;
A sðn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm.
Y Blotyn Du
Nid oes gennym hawl ar y sêr,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur sy'n nofio
Yng nghanol y glesni maith.
Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno sy'n anhrefn i gyd
Ynghanol gogoniant Duw.
|