www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Gwyn Thomas

 

Mae Gen I

Mae gen i gwpwrdd cornel
A'i lond o jiwing-gym -
Mae'n handi iawn i dewi
Fy mrawd - sy'n waldio drym.

Mae gen i fyji yn tž ni
Sy'n cyfarth fel petai o'n gi:
'Welsoch chi ddim byd 'run fath
Ā hwn yn 'mosod ar y gath.

Mae gen i robot yn yr atig
Sydd weithiau'n ymddwyn braidd yn ffrantig,
Mae'n sefyll ar ei ben yn statig
A chwifio'i draed yn awtomatig.

Mae gen i helicoptar
Sy'n hofran uwch y lli,
Diffoddodd Wil fy nghefndar
Y peiriant, welwch chi,
A rwan yn yr heli
Y mae fy nghoptar i.

Mae gen i gyfrifiadur
Sy'n feistr ar bob dawn -
Heb unrhyw bwt o bapur:
Fe gaiff bob sym yn iawn.

Mae gen i radio'r werin
A'i enw yw Si Bi,
A chyda geiriau cyfrin
Rwy'n galw drwyddi hi
Ar Rocsi fwyn o Wlad yr Iā
A Wili yn Falhala.

 

Deinosoriaid

Mae Wiliam y deinosor melyn
Yn gwirioni ar waith Pantycelyn,
A dyna lle bydd
Yn telori drwy'r dydd
Gan gyfeilio ei gān ar y delyn.

Tyrannosawrws Rex ydi Nansi
Mae hi'n hoff iawn o wisgo yn ffansi,
Yn ei ffrog gwta, binc
A'i het o liw inc
Mae hi'n hynod o debyg i bansi.

 

Parti

Jam a jeli,
Ham a bisgedi,
Pāst samon a chrystiau,
Diod lemon, cacennau
A brechdanau, brechdanau, brechdanau.

Hufen a mefus,
A theisen go felys,
Dolpiau o gwstad,
Llyfiad o fwstad
A brechdanau, brechdanau, brechdanau.

Balwnau a lliwiau,
Hetiau rhyfedd, rhubanau,
Gemau a neidio,
Chwarae'n wirion ac actio
A brechdanau, brechdanau, brechdanau.

       Parti
    Harti
    Ond

O, mam, rydw i'n sāl!!!

 

Mae

Mae na fōi yn ein stryd ni
Sydd yn credu ei fod o'n gi:
Dyna pam y mae hi'n gamp
I'w gael o heibio polyn lamp.

Y mae gen i fodryb Hannah
Sy'n credu ei bod hi yn fanana:
A dyna pam na chewch chi hi
I fynd ar gyfyl tsimpansī.

Mae gen i gefnder o'r enw Sam
Sy'n credu'n gry' ei fod yn bot jam,
Am y rheswm hwn - a dim byd mwy -
'Aiff o ddim at neb sydd efo llwy.

Mae 'na foi o'r enw Trefor
Sydd yn credu'i fod yn dractor;
Mae'n mynd bob dydd trwy fwd a baw
A'i ffrind pennaf un yw rhaw.