Gruffudd ab yr Ynad Goch
(Bardd o Ganrif 13)
Ar Farwolaeth Llywelyn yr
Ail
(Addasiad gan Robin Llwyd)
Oni welwch chi hynt y gwynt a'r glaw?
Oni welwch goed derw'n ymdaro?
Oni welwch chi'r môr yn parlysu'r tir?
Oni welwch chi'r gwir yn ymgreinio?
Oni welwch chi'r haul yn yr awyr yn hwylio?
Oni welwch chi'r sêr wedi syrthio?
Oni chredwch chi yn Nuw, ddynion gwirion?
Oni welwch chi'r byd wedi darfod?
Och atat ti, Dduw, na ddaw môr dros y tir....
|