Grahame Davies
Cariad
Peth rhyfedd yw bod yn garedig,
peth rhyfedd yw bod yn hael -
mwya' i gyd o gariad ti'n rhoi,
mwya' i gyd ti'n cael.
Mae'n groes i holl reolau ffiseg,
mae'n drysu deddfau'r byd -
'waeth faint o gariad a roddi di,
cei fwy i'w roi o hyd.
Mae'n crynhoi o gael ei afradu,
mae'n tyfu o'i wario'n rhydd.
A mwya' i gyd ti'n talu mas:
mwya' ohono sydd.
Harddwch
Mae'n anodd, ambell waith, i dynnu sgwrs,
â phlant dy ffrindiau. Wel, o leia i mi:
i rai mae'r peth yn dod yn hawdd, wrth gwrs,
ond rhywsut, nid wy'n gallu dal y lli.
Beth bynnag, wrth ymweld â
ffrind ryw dro
mi dynnais sgwrs â'i eneth bedair oed,
a chael yr hanes, gyda llygaid llo,
mai ei hathrawes oedd y berta' 'rioed.
Wel, rywdro wedyn, rhoddodd i mi lun
o'i dosbarth, a'i hathrawes gyda gwên,
a synnais at fy nisgwyliadau fy hun:
nid llances o athrawes - menyw hen.
Rhag c'wilydd imi'n honni bod yn fardd
heb weld bod cariad yn gwneud pawb yn hardd.
Sbwriel
Wrth yrru tua'r swyddfa
fe'i gwelaf lawer tro
yn casglu sborion neithiwr
a chlirio llwybrau'r fro.
A phob dydd Sadwrn hefyd
wrth siopa yn y dre
fe'i gwelaf eto'n clirio
gwedillion tecawê.
Na, nid oes glod i'w llafur
na glamor yn y byd,
ond cenfigenaf atynt
pan basiwn ar y stryd.
A minnau heb fodolaeth
os na chawn weld o hyd
fy adlewyrchiad sgleiniog
yn ffenest siopau drud.
Ie, cenfigenaf atynt,
a phe cawn ddewis rhydd
mi gyfnewidiwn yrfa
â'r rheiny unrhyw ddydd.
Nid er mwyn achub f'enaid,
nac ennill gwobrau'r ne'
dim ond er mwyn cael gadael
y byd yn lanach lle.
Lerpwl
Pan oeddwn i'n llanc yn Sir Ddinbych
dydd Sadwrn i'w gofio i mi,
oedd mynd dros y ffin am y diwrnod
i'r ddinas yn ymyl y lli.
Â'i thyrau hi'n wyn ar y gorwel
y hi oedd prif ddinas y byd;
a swanc oedd cael clywed ei hacen
wrth wrando ei sgwrs ar y stryd.
Ond heddiw 'dyw lleisiau y Glannau
ddim mwyach yn arwydd o sbri.
'Does dim angen siwrne i Lerpwl
a Lerpwl 'di dod ataf i.-
|