www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Y Ficer Pritchard

Awn i Fethlem
(Addasiad gan Robin Llwyd)

Awn i Fethlem, bawb tan ganu,
Neidio, dawnsio a llawenu,
I gael gweld ein Prynwr c'redig
Anwyd heddiw Ddydd Nadolig.

Fe gawn seren i'n goleuo
Yn serchog iawn, i'n cyfarwyddo,
Nes ein harwain ni yn gymwys
I'r lle sanctaidd lle mae'n gorffwys.

Mae'r bugeiliaid wedi blaenu
Tua Bethlem dan lonyddu,
I gael gweld y grasol Frenin:
Ceisiwn ninnau nawr eu dilyn.

Mae'r angylion yn llawenu,
Mae'r ffurfafen yn tywynnu,
Mae llu'r nef yn canu hymnau,
Caned dynion eu cān hwythau.