Emyr Hywel
Deigryn
Ar ei grudd, ar wyneb gwelw
Yn ddistaw dreiglo'n oer
Mae pelen glir o risial
Yn gloywi, gyda'r poer.
Ar ei grudd, ar wyneb gwelw
Mae lluniau poen a braw
Yn sgleinio yn y grisial
Fel enfys adeg glaw.
Yn y cnawd, dan wyneb gwelw
Mae pigyn gofid cudd,
A gloyw liwiau'r grisial
Yn diffodd yn ei grudd.
Myfi?
Rwy'n fentrus, rwy'n ddyrys,
Rwy'n felys bleserus,
Rwy'n hapus gysurus,
Hyderus a dawnus.
Rwy'n abal, rwy'n ebol,
Rwy'n hollol atebol,
Rwy'n wyrthiol o ddoniol,
Rwy'n hollol ryfeddol.
Anaconda
Mae'r Panda
I'r Anaconda
Yn bryd blasus
A melys.
Mae'r tarw
A'r carw
Yn hynod ddanteithiol
I'r sarff gyfandirol
Anferthol.
Â'i chorff mae'n eu gwasgu
Ac yna'n eu llyncu -
Trueni.
Ffest Nos
Agorwch y bagie
Yn ddistaw hogie...
A! Troëdig
O fendigedig.
Tarten gwstard,
Sbam a mwstard.
Iogwrt piws,
Can o jiws.
Cacen hufen,
Jam a pheren,
Creision Tomato
A Balisto.
Ac yna siocledau
Meddal i ddilyn
Yn toddi a llifo
Yn hylif brownfelyn;
Fel afon ludiog,
I lawr i'r stumog...
RHYBUDD!!
Ar ôl gloddesta
Ceir poen yn y cylla!
Yn y Pwll Nofio
Neidio a phlymio,
Suddo, arnofio
A phrancio.
Dawnsio, chwyrlio,
Sleifio a llithro.
Estyn,
Disgyn,
Chwerthin, sgrechian,
Gweiddi a chlebran,
Sblasio a thagu
A'r dðr yn byrlymu,
Troelli, hofran,
Llamu, hedfan ...
A blino
Cyn noswylio.
Elen Benfelen
Elen Benfelen
Tra'n marchogaeth merlen,
Er mwyn bod yn slic
Yn chwarae tric.
Bu'n chwifio ei dwylo
Fel llong yn hwylio...
Ac yna carlamodd
Y ferlen,
A llithrodd
Elen
Ar ei phen ôl
I ganol saig o wrtaith.
Cafodd effaith
A oedd i Elen yn annymunol ...
Ond roedd yn ddigwyddiad doniol,
Yn gyffredinol.
Cranc Bach ar Lwgu
Cranc bach ar lwgu
Yn syllu
Ar glustiau mawr
Miss Elen Gwawr.
Cafodd binsiad,
Ac ymhen eiliad
Bu halibalð
A thwrw.
Barcud
Pysgodyn amryliw
ar linyn
yn gwingo a phlycio
wrth ddawnsio a phrancio
ar ewyn y cymylau.
Aderyn ar dennyn
yn gwibio,
chwyrlïo a phlymio
ar adennydd glas
y gwynt.
Deilen ar gortyn
yn baglu ar frigau'r awel
ac yn ffrwydro'n
dân gwyllt o fflachiadau.
Cawod o liwiau'r hydref
yn dallu'r haul.
Pryfyn
ar edefyn brau
wrth lamu a neidio
ar ganhwyllau'r sêr
yn dryllio
cadwyn ei gaethiwed -
ac yn diflannu.
Carwyn Angorfa
Bu Cawyn Angorfa
yn bwydo ei epa
â llwyth o afala.
Yn dilyn y gwledda
cafodd yr epa
bigyn a gwasgfa
a phoen rhyfedda
yn ei fola.
Carwyn Angorfa!
Ond, pa ryfedd:
banana
yw bwyd epa!
Gobeithio bod dail bambw
yn yr epa-lw!
Ifan yr Hafod
Hoffech chi gyfarfod
ag Ifan yr Hafod?
Dyna fachgen od!
Mae e'n bwyta mwydod -
rhai byr, yn crynu fel magïod,
rhai hir yn gwingo fel llyswennod,
a beth am falwod
a brogaod
yn crynu ar ei dafod?
Mae e'n agor eu boliau
ac yn torri eu pennau
a'u sugno i'w blasu
cyn eu llyncu!
|