www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Emrys Llangwm

Hen Efail Llangwm

Adeilad Tomos Dwalad
A helfan hogia'r henwlad
Pan oedd na fynd ar lo a chalch
A phawb yn falch o'r Alwad.

Y tân yn pentywynnu
A'r fegin fel y fagddu,
Cyhyrog freichiau a dwy ael
A bir i'w gael drwy barddu.

Fe ddarfu tinc yr einion,
Y lleisiau croch a'r gwreichion
A heddiw gwelir gwedd ddi-lun:
Yr efail yn adfeilion.

 

O Ben Myndd Cwmllan
(Pedwar pennill telyn)

Ar ben hwn daw'r eira cyntaf
I'n rhybuddio y daw'r gaeaf,
Ac os niwl a'ri gyrr o'r golwg:
Arwydd o law sydd yma'n amlwg!

Daw mamogiaid yma'i lwybro 
Gyda'u hðyn i'w cynefino,
Pob un ddafad ðyr ei libart
Heb ddibynnu ar 'run llidiart.

O ben hwn cawn weld Eryri,
Llynnoedd Tegid a Chaereinni,
Alwen, Brenig a Llyn Celyn,
Bryniau Llwyd a'r Eithin Melyn.

Yma bu yn gwarchod Llangwm
Rhag helyntion blin y degwm,
A rhag gwyntoedd oer y gaea:
Yn ei gesail fe gawn noddfa.

 

Y Bunt

Sylwer: mae'r bunt yn salach, - ein pecyn
A'n poced sydd wacach!
Fe aiff yn hwyr neu'n hwyrach,
Ta beth, yn bapur tþ bach.

 

Y Ddafad Ddu

Er i'w chwaer ei charcharu, - er i'w bro,
Er i'w brawd ei gwerthu,
Ac er i'w thad ei gwadu:
Un ddi-nam i'r fam a fu.