www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Elfed
(1860 - 1953)

Gwyn ap Nudd
(Brenin y Tylwyth Teg oedd Gwyn ap Nudd; darllenwch Chwedl Llyn y Fan Fach am chwaneg o wybodaeth amdano.)

Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd, 
Lliw y lloer sydd ar dy rudd;
Cerrddi'n ddistaw fel y nos
Drwy y pant a thros y rhos;

Heibio i'r grug a'r blodau brith,
Ei, heb siglo'r dafnau gwlith.
Gwyddost lle mae'r llyffant melyn 
Yn lletya rhwng y rhedyn;

Gwyddost lle daw'r gwenyn dawnus
I grynhoi eu golud melys:
Gweli'r hedydd ar ei nyth,
Ond ni sethri'r bargod byth -

Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
A lliw y lleuad ar dy rudd.