www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Dyfrig Davies

MADAM BEIRNIAD

Annwyl Madam beirniad,
Ma jobyn cas ’da chi,
Wrth drio penderfynu
Beth yw fy meiau i.

Fe gewch ddished bach o goffi,
A chacen yn y man,
Pancws a tharten ’fale,
I gyd o gegin mam.

A chofiwch wrth feirniadu,
Am arfer teulu ni
O ennill wrth lefaru.
A heddi - cofiwch fi!

Os bydda i’n ddigon lwcus
I blesio un fel chi,
Cewch ddod fel rhan o’r wobr,
I MacDonalds gyda ni.