www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Dyfan Roberts

(Cyn defnyddio'r geiriau hyn yn gyhoeddus, cysylltwch â'r awdur ei hun.)

Dad Mae Na Rywbeth Dan y Gwely

"Dad! Mae na rywbeth dan y gwely!
Mae o'n symud nôl a mlaen
    a gwneud 'mi grynu!
Mae 'na law sy'n llawn o waed
Bron â gafael am fy nhraed!"
"Yli, gorwedd nôl Cai bach, a thria gysgu!"

"Dad! Mae hen wrach yn crafu'r gwydyr!
'Ganddi 'winedd miniog, hir a bachau budur!
Sbiwch fancw - dacw hi!
Mae'n dod mewn i 'nghrafu i!"
"Yli, Meri, mwy o Benylin i'r cradur!"

"Dad! Mae 'na bry cop wrth y gole!
Mae ei flew o'n goch a du - a deg o goese!
Mae am gripian lawr o'r to
Mewn i nghlust i, medde fo!"
"Argol, hogyn, tydi'n bump o'r gloch y bore!"

"Dad! Mae 'na lyffant mawr yn padlo!
Mae o efo fi fan hyn! Dwi'n teimlo'i drwyn o!
Mae o'n wlyb fel lwmp o does!
Mae o'n trio byta 'nghoes!"
"O, na'i diwedd hi! Mae'r botel boeth 'di byrstio!"

 

Dannedd Gosod Mr Drac

Dwi'n hen a hurt a gwanllyd,
Mor hen â Desperet Dan;
Dwi fel rhyw stiff rôl gorwedd
Am oes dan feddau'r llan.
Mae mhegiau cnoi 'di slacio
A ngheg i'n wlyb a llac.
Ow! Rhaid cael dannedd gosod, Mr Drac.

Pan o'n i'n Ddrac bach ifanc
Roedd gen i ddannedd cry;
Dim problem wrth eu suddo
I ganol gyddfau lu.
Dwi nawr dan law y deintydd
A ngyrfa sy'n y cac!
Ow" pasiwch ddannedd gosod, Mr Drac.

Wrth agor ceg rhyw noson
Am wddw Sian Pen Rwd:
Y dannedd gwirion gwympodd
Yn blop i fewn i'r mwd!
Dyw siwper-gliw yn dda i ddim,
Tâp parsel na blw-tac
I lynu dannedd gosod Mr Drac.

Gwnewch arch o ddu a sgarlad
I mi gael gorwedd lawr.
Rhowch bostyn drwy fy nghalon
Yng ngolau gwelw'r wawr,
A rhowch fy ffangs i orffwys
Cyn sgwennu ar y plac:
"Y rhain oedd dannedd gosod Mr Drac."

 

Bwyd y Wrach

Tyrd at y gadair, tyrd yn nes,
Waeth i ti heb a thuchan,
Clyw fachgen bach, cei fwyd y wrach
O waelod eitha'r crochan.

Llond llwy go dda o faw Jac-do
'Di ferwi - paid ac achwyn!
A snwff o drwyn rhyw ffwlbart mwyn
Mewn pi-pi cath i gychwyn.

A wedyn 'mlaen i'r cyrsiau mawr
Sef llyffant mewn hen sana;
Llygada twrch mewn clustiau iwrch
A slyg mewn saws banana.

A phwdin melys wedyn, mmm!
Sef, cwstad ðy 'di drewi,
Ewinedd iâr mewn cafiâr
A chynffon arth 'di rhewi.

Wel nawr amdani, fachgen bach,
Agora'th geg yn llydan!
Sdim iws deud "Na" a "Dio'm yn dda!"
Mi wnai 'ti lyncu'r cyfan!

"Ew diolch ichi yr hen wrach
Mae'ch cwcio chi'n rhagorol.
Dowch draw â'r llwy, mi lyncaf fwy -
Mae'n well na chinio'r ysgol!"

 

Gwir - Od

Rhai od yw Mam a Dadi.
Un dydd cês wers fawr, hir:
"Mae'n bryd i ni dy ddysgu di
Bob dydd i ddeud y gwir...

Mae dweud y gwir yn bwysig
I fachgen, fel i gawr.
Rhaid dweud y gwir i bawb drwy'r tir
Wrth dyfu'n fachgen mawr!"

A phan ddaeth Anti Fflorens
I'n tþ am de rhyw bnawn,
Wel, ati hi yr euthum i
I ddweud y gwir yn llawn.

"Eich tþ chi," meddwn wrthi
"Yw'r bleraf yn y rhes,
Mae'ch trwyn chi'n gam, a meddai Mam
Eich bod chi'n graig o bres."

Mi faglodd Mam o'r soffa
A thua'r drws ar frys,
Aeth Dad yn goch, ei lais yn groch
Ac agor top ei grys.

Ac wedi'r diwrnod hwnnw
Ni chewch y gwir pob tro.
Ei ddweud yn braf wrth bawb a wnaf _
Ond NID wrth Anti Fflo.

 

Mac Byrgar

Mam, dw' isio Mac!
Fel 'run sgen Jac.
Sôs mawr coch
Reit lawr fy moch:
Dwi' sio Mac!

Mam, dw' isio Bap!
Peidiwch rhoi slap!
Nionod clen
Reit lawr fy ngên:
Dwi' sio Bap!

Mam, dw' isio Biff!
'Run fath â Keith
'Misio veji
Fel Carys Medi!
Dwi' isio Biff!

Mam, dwi' sio Mac!
Neu fydda i'n grac!
Daeth Mam ar ras
 chlusten gas...
Ond ges i Fac!

 

Gwyliau Gwlyb

Glaw ar do y garafan,
Minnau'n glyd ac esmwyth;
Swatio'n braf ar bwt o gae
Uwch bae ger Aberystwyth.

Glaw ar do y garafan,
Mam a mrawd yn chwyrnu.
Dad ynghwsg a'i geg ar led
'Rôl yfed 'bach o wisgi.

Glaw ar do y garafan,
Y gwynt yn codi'r tonne,
Ond 'does dim ots am law na gwlith -
Mi godith at y bore.

 

Cyfrinach Santa

Mi fyddai weithiau'n pyslo -
Sut fydd Sion Corn yn teithio
I fedru cyrraedd i dri lle?
Mewn gwagle mae o'n gwibio?

Yn Gaerwen yn ei "grotto",
Yn Betws, mae o eto!
Ond ar ei lin cês ddoli bren
Mewn aw'ren yn Llandudno.

 

Hanes Trist Robi Colhðn

Hoff bleser Robi Colhðn
Oedd dychryn pawb â'i falðn:
Doi'n slei ar ei stôl
Clec fawr o'r tu ôl
A chwerthin wrth glywed y sðn.

Un bore roedd Misus Colhðn
Yn chwilio'r silff uchaf am brðn.
Daeth andros o GLEC!
Medd hi "Blwmin hec!"
A'i hwyneb ryw siêd o farðn.

Un dydd 'roedd Taid Robi Colhðn
Yn sipian peint neis mewn salðn:
Bu ffrwydriad mawr toc,
Cadd gymaint o sioc
Fe hitiodd ei ffêr mewn sbitðn.

Ond GWAE ddaeth i Robi Colhðn.
Un diwrnod, wrth glymu balðn
Chwyrliodd gwynt mawr
A'i godi o'r llawr
A'i gipio i grombil teiffðn!

I'r Aifft chwythwyd Robi Colhðn
Dros fedd yr hen Twtancamðn.
Fe'i gwelwyd gan rai
Uwch tywod Dwbai
Cyn glanio yn Ninas Rangðn!

 

Brain

A minnau, rhyw ddiwrnod, yn mynd ar fy hynt
Dros ysgwydd o fynydd, a mhen yn y gwynt...

Yn sydyn o nunlle, yn cylchu'n ddi-ball
O gwmpas y grib 'roedd Angylion y Fall

Yn ddu fel ei gilydd a'r haul ar bob pig
A'u crawcian diflino'n beiriannol o ddig.

Roedd ofn drwy y rhedyn, y nerfau yn cnoi
A'r cwmwl dieflig yn troi ac yn troi.

Ond yna daeth gair o bellteroedd y ddôl:
Trodd un ar ei aden a'r lleill ar ei ôl,

Gan adael y wlad mewn tawelwch fel cynt,
A minnau ar fynydd a mhen yn y gwynt.

 

Sawl Santa Sy' Na?

Mae rhywbeth yn fy mhoeni i:
Dwi'n methu cysgu'r nos.
A'r cwestiwn anodd ydi hwn:
Pwy ydi Santa Clos?

Mae santas hyd y lle 'mhobman,
Rhai main, rhai dwfn eu llais,
Rhai llygaid brown, rhai trwynau coch
Ac ambell un yn Sais!

Mae ambell un â dwylo mawr
A'r lleill â llygaid llo;
Mae un yn chwerthin "Ha Ha Ha!"
Un arall - "Ho Ho Ho!"

Ond meddai Mam - "Pan ddaw hi'n nos
Nadolig dros y byd,
Mi ddaw UN Santa i dy lofft
A hwn 'di tad nhw'i gyd!"