Donald Evans
Yr Iaith Ar y We
Draw ar lasfor y gorwel
Mae heno yn syrffio'r swel:
Gyrra'n hy â'i gêr newydd
Fel hyn hyd ewyn y dydd.
Fel 'deryn dilyn y don
Ar ei gleid i'r gwaelodion,
Ac esgyn wedyn yn ôl
Ar y nesa'n groen-iasol.
Heno fry efo'r awel
Ei llais sydd uwch lliw y swel
Yn chwifio'n fynych hefyd
O'r bae i awyr y byd!
Yr Acen Roc
Y mae'r heniaith mor heini:
Awyr cân band roc yw hi,
Nid tiwn grin o fyd hen granc
Ei thiwnio dafod ifanc.
Mae hwyl yn ei rhythmau hi -
BÎt rhyddid yn byw trwyddi;
Mae'n llesio i dempo'r dydd:
Hi yw y ganrif newydd.
Hi yw cân y trydan trwm,
Hi 'leni yw'r mileniwm;
Hi yw rêf gitarau'r ha',
Hi yw tân Catatonia.
Y Draffordd
Bore hwyl yw gwib ar hon,
Hwyl inni ar olwynion
Am amser hir, ym miri
Trip ysgol iasol yw hi.
O'n blaen yn swib o linell
Y mae hi'n sgleinio ymhell
Yn yr haul fan draw i'w brig:
Y draffordd afon-draffig.
Ar yr hewl draw i'r heulwen
Llusga tryc 'rôl tryc fel trên -
A'n bws yn dirwyn-basio
Trên ar ôl trên yn eu tro.
Ac ar bob llaw'n wib-ddibaid
Ardal las a ffrwd o laid...
A thai ar dai ... a Gwaith Dur
Yn rhuo tân i'r awyr.
Afon hwyl i'w chyrchfan hi -
Yn y man bydd mwy inni:
Dydd i'r brenin mewn dinas
Yn rhodd ar derfyn y ras.
Stadiwm 2000
Cwyd ei phen yn ysblennydd
I'r glas uwch dinas Caerdydd;
Ar uchaf y ffurfafen
Y dôm wych yn stadiwm wen.
Y tyrrau tal tua'r to
Uwch eu hafon yn chwifio -
To yw hwn o ddur tenau
I gyd i'w agor a'i gau.
Yna'n gylch o'i mewn yn gwau
Gris ar ris o deresau,
A thanynt islaw'n llawen
Faes glas glas a dwy gôl wen.
Y mae'n braf uwchlaw'r afon:
Dyna hwyl yw bod yn hon
A'r gweiddi'n codi o'r cae
I'w chwr a Chymru'n chwarae!
Y Llyfr Newydd
Un rhad o anghyffredin
I'w agor yw ar y sgrin;
Un difyr ydyw hefyd
Â'r lluniau gorau i gyd.
Un â'i brint yn ffres o'r bron:
Llyfyr fel pyllau afon
Gyda'i li o storïau,
Ac un sy'n anodd ei gau.
O 'na grêt yw llyfr y sgrin;
Un heb air byth yn borin;
Un i'w ddarllen bob ennyd
A'i ddail yn newydd o hyd.
Gwyliau yn y Gwaelod
Nid hir fydd y dydd yn dod:
Gwyliau yng Nghantre'r Gwaelod;
Ie, haf i ni i'w fwynhau
'O dan y môr a'i donnau'.
Gwersyll haf dan gwrs y lli,
Heulwen o dan yr heli!
Heulwen lle bu Seithennin
O hyd gynt yn yfed gwin.
Ar wely'r dðr treulio'r dydd:
Hwylio ymysg hen welydd,
Ac yna mynd gan ymwau
Lle unwaith bu perllannau.
Torf o bysgod a blodau
Yn byw rhwng hen feini brau,
A draw o ffin y ddinas
Swae hen glych yn seiniau glas.
Byw mis dan wyneb y môr
A gwneud dim, dim am dymor
O hwyl: bydd yn braf cael bod
Yn ôl yng Nghantre'r Gwaelod.
Gwesty'r Gofod
Cyn bo hir, yn wir, ein nôd
Yw haf yng Ngwesty'r Gofod;
Roced hefyd i'n cludo
I'r drws cyn pen fawr o dro.
Yna Awst o felyster
Yn criwsio rhwng cwr y sêr
Yn esmwyth, chwilio'r cosmos
Fore a nawn ... nawn a nos.
A gweled y planedau
Un nos hir o draw'n nesau
Yn ysgafn, siwrnai asgell
Yw Mawrth ... a Chymru ymhell!
Cerdded Â
Deinosoriaid
Eto'n wyllt daethant yn ôl
Ar reiat yn grochruol
I bori dail, rheibio'r dydd -
Cwrsio ar draws y corsydd.
Hela'n drwm drwy lwyni drain
Yn arfog enau-hirfain,
Yna'n glic uwchben eu gweldd
Dinistr o suddo dannedd.
Wedyn ar hawnt gleidio'n rhydd
I fynwes yr afonydd,
Ac uwchlaw yn yr awyr
Drwy'r dydd ag adenydd dur.
Ail oes o branc, haul a sbri -
Yna'i diwedd... distewi,
Ac encilio eto 'n ôl
I'w hen fynwent derfynol.
|