(Ef biau hawlfraint y
cerddi canlynol)
Y Mynydd Gwyn
Mi welais fynydd gwyn
Yn edrych dros y coed
I weld ei lun yn nrych y llyn
A swatiai wrth ei droed.
Roedd pennau'r coed yn fain
Pob un fel picell hir;
Pob dim yn wyn, ond gwisg y brain:
Pa hud ddaeth dros y tir?
Mae'n rhaid mai dewin fu
Drwy oriau'r nos, fel hyn
Yn brysur gyda brws o blu
A phaent o eira gwyn!
Y Gawod Eira
Mae clustog wen yn hwylio
Ar draws yr awyr las;
A'r awel yn ei gyrru
I gwr y creigiau cras.
Mae'n dod yn nes yn gyflym
Fel llong yn dod i'r lan;
Yn wir, mae'n siwr o daro
Y creigiau yn y man!
Ar gopa llym y mynydd,
Rhwygodd y glustog wen;
O'r rhwyg fe fwriwyd miloedd
O blu bach am fy mhen.
Deffro
Mae'r haul wedi codi o'r diwedd
Ac mae'r awyr fel sidan o hardd;
Cenhinen fach felen sy'n nodio
Ei ben yn y gwynt yn yr ardd.
A daeth yr hen ddraenog i'r golwg
Yn bigog, i chwilio am fwyd;
A hela eu brecwast eu hunain
Mae'r robin a'r siani-lwyd.
Mi glywais y fronfraith yn canu
Ei ffliwt, a phob nodyn yn glir:
Rwy'n siwr mai hi oedd yn galw
Y rhai a fu'n cysgu mor hir.
Y Cywion Bach
Mae'r cywion bychan melyn
Yn swatio efo'u mam
drwy'r gwynt a'r glaw a'r stormydd
mewn nyth ar goeden gam
Mae pawb yn cysgu'n hapus
mewn gwely bach o blu.
Lle braf i fagu adain
yw nyth y Deryn Du.
Nyth y Dryw
Yn y wal mi welais
Nyth y dryw;
Annedd bach, ac yno
Obaith byw.
Tþ od o wellt cynnes,
Grug a rhawn;
Nyth ydoedd, un blethedig
O ddwys ddawn.
Aelwyd ddel a welais
Neu gaer gudd,
I linach olynol:
A fu a fydd.
Y Niwl
Mae'n fore o haf a chlywaf
Yr adar yn canu i gyd;
Ond mae'r niwl yn gwneud i mi deimlo
Fod rhywbeth o'i le ar y byd.
Mae'r haul ar y bryniau yn brysur
Yn peintio yr eithin a'r grug;
Ond mae'r niwl yn cuddio'r dyffrynnoedd
O'r golwg dan gwrlid ffug.
Pan welais y niwl yn y dyffryn,
Dychrynais, gan gredu yn siwr
Fod y môr wedi codi o'i wely
A boddi'r holl wlad o dan ddðr.
Lliwiau
Glas ydy'r môr
A'r cwmwl sy'n wyn;
Gwyrdd ydy'r gwellt
A brown yw pob bryn.
Aur ydy'r eithin
A fflamgoch yw'r ddraig;
Piws ydy'r grug
A dulas yw'r graig.
Melyn yw'r þr
A gwyrddlas yw'r rhiw.
Llwyd ffydai'n byd
Pe na byddai lliw.
Y Cychod Gwyn
Heddiw roedd dau o gychod
A hwyliau gwyn o blu,
Yn llithro dros yr harbwr,
Fel llongau'r dyddiau fu.
Symudai'r ddau yn distaw,
A'u hwyliau'n llawn o wynt,
Yn lluniaidd ac urddasol
Fel llongau Rhufain gynt.
Ac yna, yn ddirybudd,
Bu cyffro mawr a stðr,
A'r cychod plu yn codi
Yn gynnwrf gwyn o'r dðr.
A thynnu cwrs a wnaethant
Yn union am y tir;
Pedwar o hwyliau gwynion
A dau o yddfau hir.
Pengarn
O frig Pengarn mi welaf
yr Ala ar ei hyd,
sy'n arwain o Bwllheli
i Lþn - a phendraw'r byd!
O frig Pengarn mi welwn
yr Imbill yn y lli
a'r creithiau, lle bu dynion,
yn naddu'i hwyneb hi.
O frig Pengarn mi welwch
y graig ger Harlech, draw,
lle safodd Bendigeidfran
a'i gleddyf yn ei law.
Bwrw Glaw
Pan fydd y glaw yn dod i lawr
Yn ddafnau bras fel dagrau cawr
Y byd fydd dan gymylau trwm
A'r awyr oll yn ddu fel plwm.
A glywsoch chi y glaw erioed
Yn dripian, dripian drwy y coed?
Ar groen y dail, bysedd y glaw
Sy'n drymio, drymio yn ddi-daw.
A peli gloyw, bob yn ail,
Yn powlio'i lawr ar hyd y dail.
Wrth ddisgyn, bydd y dafnau hyn
Yn gwneud modrwyau ar y llyn.
Ond pan ddaw'r haul, bydd lliwiau'r mmellt
Yn mynd a dod ar hyd y gwellt.
|