www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Dewi Pws

Y Cerdyn Nadolig
(Teitl gwreiddiol y gerdd hon oedd Y Llythyr)

Dyma'r llythyr ola', fy ngwraig
Gei di 'wrtha' i,
Ac erbyn y ffeindi di hwn ar y ford
Bydda i'n bell oddi wrthot ti.
'Wi wedi diodde degawd
O'th glebran cwynllyd, cry -
Ti'n waeth na ffôn-in Sulwyn
Bob dydd ar y BBC.

O'dd well 'da ti gwmni'r gath na fi,
O'dd hi wastad yn dy gôl,
Ond ges i ddial ar honno 'fyd -
Rois i fwstad lan ei phen ôl!

Aeth hi lawr yr ardd fel mellten,
Ac wedyn, streit nôl lan,
Ac yna deifio mewn i'r tþ bach,
A stemio am awr ar y pan.

Hefyd, gair am y bwji,
A godwyd ar fêl a llath:
Mae'i gaets e'n wag, oblegid
Ma' fe yn stumog y gath.

Fydd Cwtsi-cw y ci bach hyll
Ddim yn 'ma i weud 'shwmai?'
'Wi 'di diodde chwyrnu'r cythrel bach
ers Nadolig wyth-deg-dau.

Os wyt ti isie'i weld e 'to,
Cer i'r Tseinis a gofyn am nwdl;
A phaid a chael gormod o sioc os yw'r cig
Yn tasto ychydig fel pwdl.

O'r diwedd, mi gaf heddwch
Yn bell oddi wrthot ti a dy fam -
Yn rhywle neis fel Seiberia,
Sir Fôn neu Fietnam.

Ffeindi di byth mohona i,
'Wi wedi dianc nawr,
'Wi am gymryd ein harian o'r banc a mynd bant
'Da llond bws o Ferched y Wawr.

P.S. 'Wi newydd gofio,
Ma'r acownt yn dy enw di:
Anghofia'r cerdyn Nadolig Llawen...
Bydda' i nôl i de am dri!!!