www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 


(Dewi Jones  biau hawlfraint y cerddi canlynol)

Mochyn Ty Rhedyn

Mochyn Ty Rhedyn
A het am ei ben,
Gwasgod a menyg
A dwy glocsen bren;
Tro yn ei gynffon
A ffon yn ei law, -
Bydd fory fel arfer yng nghanol y baw.

 

Huwcyn

Daw rhywun byth a hefyd
Yn ddistaw gyda'r nos
I sibrwd yn fy nghlustiau
"Mae'n amser gwely, dos."

Mae'n taflu llond fy llygaid
O dywod melyn mân,
A gwneud i mi bendwmpian
Yn swrth o flaen y tân.

Mae Mam yn dweud mai Huwcyn
Sy'n galw ar ei dro
I godi eisiau cysgu
Ar holl blant bach y fro.

Dim ond ar amser gwely
Y caf ei gymorth hael
Pan ddaw yn amser codi
'Fydd Huwcyn ddim ar gael!

 

Plas Uchaf

Oes 'na robin dan gronglwyd y ddraenen
Yn ymyl Bryn Golau o hyd?
Oes 'na droellwr ar waelod y marian
Rhwng yr eithin yn siglo ei chrud?

Mae'r awel ar bonc Pant y Bugail
Yn mynd ac yn dod megis cynt
Ond nid oes sðn aerwy'n y beudy
Nac arogl gwlân yn y gwynt.

Oes cysgodion yn ymlid ei gilydd
Dros weirglodd y Cae Bach Coch Big?
Oes 'na griglen ar lan Ffynnon Badell
A chwilen fawr ddu yn ei phig?

Fe ddaw cnau ar y cyll eto 'leni
A mwsog i'r gwrych fel erioed
Ond ni ddaw pladurwr drwy'r adwy
Na sðn yr un cryman o'r coed.

Oes sguthan ym mherllan Plas Llanfair
Yn llacio ei gwddf rhwng y dail?
Oes gwenoliaid dan fargoed y stabal
Yn bwydo llond nyth bob yn ail?

Mae'r tyllau o hyd yn y cibost
A drws cefn i'w gau os bydd rhaid
Ond mae rhwd ar dafod y gliced
A glaswellt ar fuarth fy nhaid.

 

Naddo!

Mi welais fuwch goch gota
Yn dringo i fyny'r Wyddfa,
Blawd mewn basged ar ei chefn
I bobi torth o fara.

Mi welais geiliog rhedyn
Yn tynnu llong o Nefyn
Dan Bont y Borth i Lyndygai
Wrth raff o gynffon mochyn.

A gwelais ddwy bioden
Yn nofio tros yr Hafren,
A rhwng y ddwy yn nðr y lli
Roedd sachaid fawr o halen.

 

Llyffant

A welsoch chi'r hen lyffant
Sy'n byw ar lan y llyn?
Mae ganddo goesau hirion
A llygaid llonydd, syn;
Bydd Nain yn dweud yn aml
Pan rydd hwn sbonc go fawr,
Na ddaw yn ôl i'r ddaear
Am gryn dri chwarter awr.

 

Yr Hen Fwgan Brain

Gwarchod y rhesi
Ar waelod y llain
Â'i freichiau i fyny
Mae'r hen fwgan brain.

Mewn siaced hen ffasiwn,
Yn garpiau i gyd,
Fe saif hwn yn llonydd,
Yn fyddar a mud.

"Beth sydd ar dy feddwl
Yr hen gyfaill mwyn
Wrth syllu'n fyfyrgar
Dros dalar a llwyn?

A fuaset yn hoffi
Rhoi tro bach o'r llain
A chrwydro am dipyn
Yn rhydd fel y brain?"

 

Jac Codi Baw

Fe welaf anghenfil bob bore
Yn pori ar ochor y stryd,
Mae'n codi ei ben mawr i'm gwylio
A'i wefus yn laswellt i gyd.

Mae'n troi yn ei unfan i edrych
Gan chwythu a chwyrnu fel trên,
Ond tybiaf y caf wrth fynd heibio
Bob amser, ryw gysgod o wên!

 

Cymdogion

Ni chlywais dincial morthwyl
Yng nghornel bella'r ardd
Na siffrwd llusgo dodrefn
rhwng y briallu hardd.

Ni welais fwg yn codi
Yn britho'r bore llaith
Na chlywed sang esgidiau
Ar derfyn diwrnod gwaith.

Ond pan ddaeth gwefr y trydar
O'r berth yn gyffro llon
Gwyddwn yn iawn fod gennym
Gymdogion newydd sbon.

 

Y Ddau Bry Copyn

Dau bry copyn o ardal Maesteg
Yn cychwyn i Ferthyr am chwarter i ddeg,
Un eisiau cwsmer i brynu ei we
A'r llall eisiau pryfed yn marchnad y dre.

Dau bry copyn, beth bynnag i chi,
Yn mynd tuag adref am chwarter i dri;
Un wedi gwerthu cryn lathen o we
A'r llall wedi prynu pry cannwyll i de.

 

Milgi'r Gelli

Milgi brych y gelli
Y sioncaf fu erioed,
Ycreadur bach cyflymaf
A gaed ar bedwar troed:
Wrth ddychwel tuag adref
Digwyddodd lawer gwaith
I'r milgi gwrdd a'i gysgod
Yn cychwyn ar ei daith.