www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny
Holiadur

 

 

Dafydd Iwan
(Hawlfraint: Cwmni Recordiau Sain)

Yma o Hyd

Dwyt ti'm yn cofio Macsen,
Does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd
Yn amser rhy hir i'r co';
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru
Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A'n gadael yn genedl gyfan
A heddiw: wele ni!

Ry'n ni yma o hyd,
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry'n ni yma o hyd.

Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,
Rhued y storm o'r môr,
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!

Cofiwn i Facsen Wledig
Adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd
'Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!'
Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd,
Er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw
Byddwn yma hyd ddiwedd amser
A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!

Dafydd Iwan, Pafiliwn Corwen, 1989. Llun: Tecwyn Roberts;
allan o gasgliad o luniau digidol FfotoBanc Cymru, gan Gyfrifiaduron Sycharth.

Ai Am Fod Haul yn Machlud?

Ai am fod haul yn machlud
Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd?
Neu ai am fod nos yn bygwth
Rhoi terfyn ar antur y dydd?
Neu ai am fod côr y goedwig
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor unig fy myd?

Ai am fod golau'r lleuad
Yn oer ar ruddiau'r nos?
Neu ai am fod oerwynt gerwin
Yn cwyno uwch manwellt y rhos?
Neu ai am fod cri'r gylfinir
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor dywyll fy myd?

Ond os yw yr haul wedi machlud
Mae gobaith yng ngolau'r lloer,
A chysgod yn nwfn y cysgodion
I'm cadw rhag y gwyntoedd oer,
Ac os aeth cri'r gylfinir
Yn un â'r distawrwydd mawr,
Mi wn y daw rhywun i gadw
Yr oed cyn toriad y wawr.

 

Ar Lan y Môr 1990

Ar lan y môr roedd tywod melyn
Ar lan y môr roedd hwyl a chwerthin
Ar lan y môr mae baw a sbwriel
Ar lan y môr mae'n dawel, dawel.

Ar ben y bryn mae cân yr adar
Ar ben y bryn mae cwmwl niwclear
Ar ben y bryn mae oen yn prancio
Ond fydd na neb yn ei gael i ginio.

Yn y fforest fawr mae sðn y llifio
Yn y fforest fawr mae coed yn syrthio
Yn y fforest fawr mae'n rhaid lladd natur
Er mwyn i ni gael darllen papur.

Ar ddðr y llyn mae cwch yn hwylio
Ar ddðr y llyn mae dyn yn sgïo.
I ddðr y llyn fe ddaeth glaw asid
I ddðr y llyn daeth diwedd bywyd.

 

Bryniau Bro Afallon

Ar fryniau Bro afallon,
Mae pawb yn byw yn hen;
Does neb yn colli tymer
Ac mae gwg 'run fath â gwên;
O mae'n haf ar hyd y flwyddyn,
Nadolig bob yn ail ddydd Iau;

    O bois rhaid mynd am dro
    I'r nefolaidd fro
    Lle mae'r merched o mor hardd,
    I ddenu calon bardd,
    Ar fryniau Bro Afallon.
    O mae ieir bach yr ha'
    A'r blodau yn bla
    A chroew yw dðr pob afon,
    Does 'na neb yn y jêl,
    O mae bywyd yn fêl,
    Ar fryniau Bro Afallon.

Ar fryniau Bro Afallon
Mae pawb yn siarad Cymraeg,
Llythyrdy ar ddrws pob Swyddfa Bost
Does dim sôn am Dafod y Ddraig,
Mae'r enwade i gyd wedi uno
A'r siope'n gwerthu popeth am ddim
O bois rhaid mynd am dro...

 

Cân y Glowr

Fe gerddai henwr yn araf
I lawr hyd heol y cwm;
Heibio i'r stryd lle bu'n chwarae gynt
Ond heddiw oedd unig a llwm.

Roedd creithiau'r glo ar ei dalcen
A chyrn y pwll ar ei law
Ac wrth iddo gerdded hyd lwybyr y gwaith
Fe glywai rhyw leisiau o draw.

Fe glywai leisiau y glowyr
Wrth weithio yn nhwyllwch y ffâs:
Alun Tþ Cenol a'i denor mor fwyn
A Tomos yn cyd-ganu bas.

Fe gofiai am hwyl yr hen ddyddie
Pan oedd bywyd y cwm yn ei fri.
Fe gofiai y capel a'r llyfrgell yn llawn
Lle heddiw does ond dau neu dri.

A heno mae Tomos ac Alun
Yn naear y fynwent ill dau
A does dim ar ôl yn awr i'r hen ðr
Ond atgofion, a phwll wedi cau.

 

Cewri'r Crysau Cochion

     Mae cewri'r crysau cochion ar y blaen
   
Mae cewri'r crysau cochion ar y blaen
    Waeth pwy ddaw i'n herbyn
    Waeth beth yw sg
ôr y gelyn
    Bydd cewri'r crysau cochion ar y blaen.

Daw'r bois i lawr o'r cymoedd
O'r gweundir a'r mynyddoedd
O ffermydd y dyffrynoedd yn un haid,
O'r gorllewin ac o'r gogledd
O Bowys deg a Gwynedd
Gan s
ôn am gampau llynedd yn ddi-baid.

Fe welir Cymru'n uno
A chenedl yn dihuno
A phawb sydd am fod yno ar y maes,
Y coch a'r gwyn ymhobman
Y dreigiau yn cyhwfan
A'r Cymry oll yn gyfan ar y maes.

O, na bai Cymru y dyfodol
Yn stadiwm genedlaethol
A phawb yn codi'n unol fel un gðr,
I godi'r ddraig yn uchel
A'r iaith yn cael ei harddel
A bois y bêl yn filwyr i Glyn Dðr!

 

Daw, Fe Ddaw yr Awr (detholiad)

Wyt ti'n Cofio'r ysgol fomio
A losgwyd gan dri gðr?
Y Tân a daniwyd yno
Sy'n dal yngyn rwy'n siwr,
Llosgwyd ysgol,
Dân anfarwol -
Daw, fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

Wyt ti'n cofio teulu'r Beasleys
Yn gwrthod talu'r dreth,
A gwþr Llanelli'n gofyn,
'Y ffylied dwl, i beth?'
Cofio'u haberth
A'u gweledigaeth,
Daw fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

Wyt ti'n cofio sgwâr Caerfyrddin
Pan oed Emyr yn y llys?
Y dyrfa fawr yn ddistaw
Ac yntau'n cael deuddeg mis
Am fod yn Gymro,
Wyt ti'n cofio?
Daw, fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

Wyt ti'n cofio Pont Trefechan
A'r brotest gynta i gyd
A'r Cardis yn ffaelu deall
Pam roedd Cymry'n blocio'r stryd
Heb ddim achos,
'Codwch, blantos!'
Daw, fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

Wyt ti'n cofio sgwâr Caerfyrddin
Pan gododd Cymru'i phen,
Llawenydd yn ein dagrau
A Gwynfor yno'n ben,
Wyt ti'n cofio,
Nos y gwawrio?

Daw, fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

 

Dewch I Lan y Môr

Does dim golwg fod y niwl a'r glaw yn cilio
Does dim golwg o'r haul drwy'r cwmwl du,
Mae'n dal i fwrw hen wragedd a ffyn
Chawn ni byth fynd i lan y môr fel hyn:
Dyw'r hafau nawr ddim fel yr hafau fu.

    O! O! Dyw'r hafau nawr ddim fel yr hafau fu!

Mae'r dyn ar y bocs yn sôn am sbeidiau heulog,
Mae'r dyn ar y bocs yn gaddo tywydd braf,
Mae'n dal i fwrw hen wragedd a  ffyn
Chawn ni byth fynd i lan y môr fel hyn:
Dyw'r hafau nawr ddim fel yr hafau fu.

 

Ffwdl-Da-Da

     Ffwdl-da-da-da-da-da, ffwdl da-da-da-da-da
    Priododd y gleren hen iâr fach yr ha.

Dywedodd y gleren 'Wnei di mhriodi i?
O iâr fach yr ha, rho dy galon i mi.

Atebodd hithau 'O mi fydde hi'n neis
Cael gðr sydd yn dipyn bach mwy o seis.'

Atebodd y gleren 'Er fy mod i mor fach
Mae 'ngahriad i'n gywir, a ngalon i'n iach.'

Aethant at y gwningen i'w priodi, do,
Ac yna am fis mêl o gwmpas y fro.

Mwmian y gwenyn a chyfarth y cðn,
Chlywyd erioed y fath ddwndwr a sðn!

 

Mae'n Wlad i Mi

Mi fûm yn crwydro hyd lwybrau unig,
Ar foelydd meithion yr hen Arenig;
A chlywn yr awel yn dweud yn dawel:
'Mae'r wlad hon yn eiddo i ti a mi.'

     Mae'n wlad i mi ac mae'n wlad i tithau
    O gopa'r Wyddfa i lawr i'w thraethau,
    O'r de i'r gogledd,
    O F
ôn i Fynwy:
    Mae'r wlad hon yn eiddo i ti a mi.

Mi welais ddyfroedd y Ddyfrdwy'n loetran
Wrth droed yr Aran ar noson loergan,
A'r tonnau'n sisial ar lan Llyn Tegid,
'Mae'r wlad hon yn eiddo i ti a mi.'

Mae tywod euraid ar draeth Llangrannog
A'r m
ôr yn wyrddlas ym mae Llanbedrog;
O ddwfn yr eigion mae clychau'n canu,
'Mae'r wlad hon yn eiddo i ti a mi.'