www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Crwys

(William Crwys Williams)
(Ganwyd 1875)

Ysgub y Dail

Gwynt yr hydref ruai neithiwr,
Crynai'r dref i'w sail,
Ac mae'r henwr wrthi'n fore'n
Sgubo'r dail.

Yn ei blyg uwchben ei sgubell
Cerddai'n grwm a blin,
Megis deilen grin yn ymlid
Deilen grin.

Pentwr arall; yna gorffwys
Ennyd ar yn ail'
Hydref eto a bydd yntau
Gyda'r dail.