Ceri Wyn Jones
Bola Sion Corn
Mae un bol ymysg boliau
sydd bron yn ddigon i ddau:
bola hiwj a bola od,
y bola sydd heb waelod;
ac mae ei sled yn dwedyd,
'Hwn yw'r bol sy'n fwy na'r byd!'
Nid oes yn y bydysawd
un gšn nos i guddio'i gnawd;
na'n unman i'r truan trwm
grys na throwsus wrth reswm
all gynnwys ei holl ganol,
na belt i gofleidio'r bol.
Heddiw gofynais iddo
am ei fol anferthol o.
Ofni wnawn ond gofyn wnes
i hwn adrodd yr hanes...
Oedais... cyn dweud, 'Pam rydych
yn fola-rownd fel rhyw ych?'
Chwarddodd a chwarddodd, a ches
awr a haner o'i hanes:
'Y mins peis rwy'n ei feio
fy mod i'n fifty stone four,
a'r bola oedd fel tair balšn
yn fola fel pafiliwn.
Mae'r holl dai'n rhoi mins pei poeth
i'm cyfarch, ac mae cyfoeth
y peis yn magu pwysau
fin nos ac yn fy nhewhau.
A'r tato a'r gateaux i gyd,
a'r hufen gorau hefyd,
a bwyta'r ugain butty
wedi'r tost cyn dod i'r ty.
yn fy mol y mae fy maeth,
mewn bola mae'n bywoliaeth:
i fwyd, ein storfa ydyw,
a rhan o'n hysgubor yw.
Bwyta'n ddoeth a bwyta'n dda
yw bioleg y bola.
af o 'ma mwy at fy medd
yn ddiddeiet ddiddiwedd!'
Ac aeth, gyda'i geirw gwan
yn goch, a'i sled yn gwichian.
A minnau'n drist a distaw
at y drws es eto draw.
|