Yr Ystafell
(Ystafell Cynddylan)
Bûm gyda hi
yn chwilio'r duwch
o lawr i nenfwd,
o wal i wal,
o gornel i gornel,
gan aflonyddu'r llwch,
sathru'r chwilod
a chwalu'r llwydni
yn yr ystafell dywyll.
Bûm gyda hi
yn chwilio'r tywyllwch,
sawr y pydredd yn sur yn y ffroenau,
y lleithder yn ffwr yn y genau
a'r gwyll yn cydio yn ein gwallt.
Chwiliasom
donnau trwm y distawrwydd
a haenau'r duwch
gyda'n gilydd
yn yr ystafell wag,
i gael y golau.
Bu yma unwaith,
yn dawnsio yn y tân
ac yn crynu yn y gannwyll,
yn llathru yn y llestri
ac yn gwrido yn y gwin.
Bu yma unwaith ...
ond, ystafell Gynddylan sy' dywyll heno,
ac onid yn ein cof yn unig
y llosga'r golau a fu,
cyn dod o'r duwch
i Bengwern.
Ar Ôl Darllen Barddoniaeth yn Warsaw
'Dyna'r tro cyntaf i ni glywed eich iaith,
darllenwch hi eto,'
meddai'r merched yng nglwb y werin.
'Mae hi fel aderyn dieithr
yn hedfan ar draws y Fistiwla,
yn esgyn ac yn disgyn,
yn esgyn ac yn disgyn
yng nglesni'r clyw.'
'Darllenwch hi eto,
mae hi'n llawn lliwiau
i ni yma.
Mae hi'n wyrdd fel gobeithion,
yn felyn fel hyder,
yn goch gan ddicter
wrth i'w phlu fflachio
dan haul ein gwrando.'
'Darllenwch hi eto.'
Cwestiwn?
'Yn eich gwlad chi,
ydy hi fel un o'r adar lliwgar hynny
a gedwir mewn cawell?'
|