www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

 

 

Dyma waith cyffrous o  Ysgol Gymunedol Tal-y-bont, Ceredigion:

 

Siapiau yn y Sw

 

Anifeiliaid swnllyd

yn y ciwbiau metel.

Morloi yn pasio sffêr lliwgar

o drwyn i drwyn.

 

Crwban yn cysgu mewn cragen grom.

Ffured ffyrnig

yn gwibio fel saeth

mewn llinell syth

trwy'r tiwbiau tryloyw, silindr.

 

Nadroedd yn sleifio

fel silindrau coch a gwyrdd

trwy frigau'r coed.

Crocodeil yn nofio

yn igam-ogam,

i fyny ac i lawr,

yn ôl ac ymlaen

mewn llinellau syth.

 

Jeno Lewis