|
|
Dyma waith gwych Uned Iaith Abergwaun, Ysgol Bro Gwaun:
Dydd Sul yn y Gaeaf Edrychaf ar y gath drwy'r ffenest, Blasaf i gawl bendigedig i swper
Dydd Sul yn yr Haf Edrychaf i ar yr haul poeth, Blasaf i hufen-iâ a siocled blasus
Ysgrifennodd Carys y gerdd wych hon ar gyfer Eisteddfod yr ysgol.
Ar y Brig.
Awel gref Eryri yn anwesu fy wyneb
fel tonnau bychain yn anadlu eu hanadl olaf.
Fy mol yn neidio mewn cyffro a hapusrwydd
am fy mod wedi cyrraedd y copa am y tro cyntaf.
Edrych lawr dros y dyffryn a gweld
Llyn Padarn fel llygad mawr glas.
Yn bellach draw, y mor a'i geffylau gwynion
yn torri'r wyneb yn ddiog.
I'r Dwyrain, gallaf weld y Grib Goch
ei hun yn sefyll yn gadarn a chry'.
Ar hyd y llwybr gwelaf gerddwyr yn dal i ddringo
yn eu cotiau amryliw, a'u bagiau'n drwm.
Mwynhau gorffwys gyda Dad
a gwrando ar straeon ei blentyndod.
Edrych lawr ar ddwr grisial y pwll enfawr
yn disgleirio yng ngolau llachar yr haul.
Wrth syllu ar y defaid yn porri yn dawel,
a chysgodion y cymylau'n llithro dros y perthi
gwyrddion,
teimlaf falchder o gael eistedd ar y brig
ac o berthyn i Gymru - fy ngwlad.
|