www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Dafydd Islwyn

Mynydd Dimlaith

 

Tyrd, Angharad, tyrd gyda mi
i weld cyfoeth dy gynefin.

A weli di'r mynydd ym Mhwll y Pant
fel rhyw bysgodyn mawr
a chwarel Tre-hir
yn geg agored iddo?

Ai rhy drwm oedd
I bysgotwyr Oes yr Iâ
Ei gario adref?

Nei ai disgwyl y mae
i ti ei daflu
yn ôl i Afon Rhymni?

Tyrd, Angharad, tyrd i weld.

 

Cawod

Disgynnodd y glaw yn drwm.
Tywalltodd ei ddiferion
yn afradlon
i gwpan fy llaw.

Yn union deg
diflannodd y diferion,
diemwntiau mwclis y Tylwyth Teg,
rhwng craciau fy mysedd.

Difethwyd yr helfa
dan fargod yr ysgol.

 

Yr Amgueddfa Werin

Yma
a welwch chi'r gorffennol yn gorffwys
yn y tolldy, y bwthyn a'r capel
yn barod i adrodd stori.

Rhwng pedair wal y tolldy beiddgar
Mae pryder cyfnod Beca
i'w weld yn pwyso'n drwm
ar y ceidwad.

Ym mwthyn Llanfadyn cewch eto
arogli'r swper chwarel
a gododd galon chwarelwr blinedig
ar ddiwrnod gwlyb a chaled
yn chwarel y cilgwyn.

Mae'r Crist wedi dweud
'Myfi yw bara'r bywyd';
yng nghapel Pen-Rhiw,
cewch eto ailwrando
Ei idiomau a Dameg y Gwynfydau.

Oedwch ennyd
i glustfeinio ar ddoe.

 

Fy Iaith

Mae fy iaith yn urddasol
a'i hidiomau yn anrhydeddu
adnod a phennod a ffydd.

Mae'r Gymraeg mor wydn
â'r Hebraeg a'r Groeg a'r graig
o iaith: y Lladin.

Gosgeiddig yw fy iaith
wrth gario'r cyfieithiad
o ardd Eden
drwy'r Aifft
dros yr Iorddonen
i Fethlehem
ac oddi yno i Lanelwy.

Hithau, fy iaith, sydd wrth fodd fy nghalon.