Dafydd Henry Edwards
Y Corgi Cymreig
Mae corgi ym mhlas Llundain
A chorgwn dros y lli,
Ond corgi cynffon cwta
Sydd ym Mynachlog-ddu.
Y Cudyll Coch
Pan own ar gwr y coed
Un dydd yn rhodio
A'r canu gora 'rioed
O'r cangau'n llifo,
Fe ddaeth i'r wybren las
Ei gysgod sydyn. -
Yr hebog creulon, cas
Gan ladd pob nodyn.
Ond pan drois 'nôl i'r
coed
'Roedd heulwen eto:
A llonach nag erioed
Y canu yno.
|